Grŵp Rhanddeiliaid Mentrau Cymdeithasol Cymru

Amdanom ni

Mae’r Grŵp Rhanddeiliaid Menter Gymdeithasol yn credu mae’r sector menter gymdeithasol yng Nghymru yn gallu chwarae rhan allweddol wrth helpu i adeiladu economi decach, mwy cynhwysol a chynaliadwy. Mae ein haelodau yn cynnwys:

• Cymdeithas Ymddiriedolaethau Datblygu Cymru

• Cwmnïau Cymdeithasol Cymru

• UnLtd

• Cwmpas

• CGGC

Ein Hymateb

Beth yw iechyd presennol gweithlu'r sector, gan gynnwys effeithiau'r pandemig, Brexit a’r argyfwng costau byw? A yw gweithwyr wedi gadael y sector, a pha effaith y mae hyn wedi’i chael?

Dangosodd adroddiad mapio’r sector mentrau cymdeithasol yng Nghymru yn 2020 gan Busnes Cymdeithasol Cymru fod mentrau cymdeithasol yn gyffredin iawn yn y diwydiannau creadigol; “celfyddydau, adloniant, hamdden a gwasanaethau eraill” oedd y diwydiant mwyaf poblog o fewn y sector menter gymdeithasol. Yn 2020, roedd 26% o fentrau cymdeithasol a nodwyd yn gweithredu yn y diwydiant hwn, i fyny o 22% yn 2018. Mae twf y model menter gymdeithasol o fewn y sectorau hyn hefyd yn cael ei adlewyrchu yn y data ar yr amcanion cymdeithasol/amgylcheddol a nodwyd yn yr ymchwil. Dywedodd 42% o fentrau eu bod yn dymuno annog mwy o gyfranogiad yn y celfyddydau, chwaraeon a hamdden, i fyny o 32% yn 2018. Ond, mae busnesau celfyddydau/hamdden yn cyfrif am ddim ond 8% o weithwyr a 5% o’r trosiant a gynhyrchir gan fentrau cymdeithasol sy’n ymateb i'r arolwg. Mae hyn yn adlewyrchu meintiau cymharol fach y mentrau cymdeithasol sy'n gweithredu yn y diwydiannau creadigol.

Tynnodd yr adroddiad sylw hefyd at yr heriau eithafol a achoswyd gan argyfwng Covid-19 i fentrau cymdeithasol sy’n gweithredu yn y diwydiannau creadigol. Dywedodd 82% o fentrau cymdeithasol yn y sectorau celfyddydau, adloniant a hamdden eu bod wedi rhoi’r gorau i fasnachu ar ryw adeg yn ystod yr argyfwng. Roedd hyn o’i gymharu â 63% o fentrau cymdeithasol yn gyffredinol, a hwn oedd yr uchaf o unrhyw sector, a oedd i’w ddisgwyl o ystyried natur y rheoliadau cloi. Roedd gwahaniaethau sectoraidd sylweddol o fewn mentrau cymdeithasol o ran addasu i’r amgylchiadau heriol, gydag iechyd a gofal (85%) ac addysg (71%) yn llawer mwy tebygol o ddarparu cymorth o bell, tra mai dim ond 40% o ganolfannau celfyddydau/hamdden a chymunedol wedi gwneud hynny. Roedd cyfran y gweithwyr a roddwyd ar ffyrlo hefyd yn amrywio o 12% o fewn addysg i 66% o fewn y celfyddydau a hamdden.

Mae'r data hwn yn ddangos sector o fentrau cymdeithasol bach sydd wedi wynebu heriau mawr yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf. Yn ddealladwy, o ystyried y cyd-destun, bu’n rhaid i lawer o fentrau cymdeithasol ganolbwyntio ar aroesi yn dymor byr, ac roedd llawer o’r cyllid a oedd ar gael yn ystod y cyfnod hwn yn dymor byr. Mae gan hyn oblygiadau ar gyfer y tymor canolig a'r hirdymor, gan fod adnoddau wedi'u defnyddio ar gyfer goroesiad ac nid ar gyfer datblygiad a chynaliadwyedd hirdymor. Mae Cwmnïau Cymdeithasol Cymru yn gweithio gyda nifer o bobl hunangyflogedig â chyflyrau niwro-amrywiol sydd wedi colli neu gweld llai o gyfleoedd gwaith. Fodd bynnag, gwyddom hefyd fod llawer o fentrau cymdeithasol wedi lywio eu cynnyrch a’u gwasanaethau yn ystod y cyfnod, gan gynnwys y defnydd o dechnoleg ddigidol, ac elwa ar gyfleoedd newydd megis rhwydweithiau cymunedol newydd, lefelau uchel o wirfoddoli, gweithio gartref cost-effeithiol, defnydd o lwyfannau ar-lein, a newid arferion defnyddwyr.

Pa mor sefydlog yw’r sector yn ariannol a pha mor addas yw’r tâl a’r amodau gweithio?

Mae diwydiannau creadigol yn chwarae rhan allweddol yng nghymunedau Cymru, o ran effaith economaidd drwy greu swyddi a chreu cyfoeth, a thrwy wella llesiant ac effaith gymdeithasol. Mae ein hymchwil yn dangos bod mentrau cymdeithasol yn weithredwyr allweddol yn y sector hwn, ac y gall y model busnes hwn chwarae rhan allweddol wrth fynd i’r afael â heriau y mae’r sector a chymunedau ehangach yn eu hwynebu. Mae mentrau cymdeithasol yn gweithredu ar egwyddorion y Llinell Driphlyg; pobl, planed, elw. Mae hyn yn sicrhau bod eu pwrpas cymdeithasol, amgylcheddol, economaidd wrth wraidd yr hyn a wnânt. Rydym yn gweld tystiolaeth o hyn gan y ffaith bod 68% o fentrau cymdeithasol ar draws pob sector yn talu’r cyflog byw i’w holl staff. Mae data gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dangos, ar draws yr economi gyfan, bod 223,000 o swyddi yng Nghymru wedi talu llai na’r Cyflog Byw ym mis Ebrill 2021, sef 17.9% o’r holl swyddi yng Nghymru.

Mae’r data yn ddangos lefelau uchel o hunangyflogaeth yn y diwydiannau creadigol yng Nghymru. Amlygodd adroddiad gan Sefydliad Bevan, ‘A New Deal for Self-employment’ (2020), yr heriau mae pobl hunangyflogedig yng Nghymru yn eu hwynebu. Ddangosodd yr adroddiad bod ‘incwm o hunangyflogaeth yng Nghymru yn gyson ymhell islaw’r incwm cyfartalog a enillir o gyflogaeth’. Yn ystod 2018-19, roedd yr incwm blynyddol canolrifol o hunangyflogaeth yng Nghymru yn llai na dwy ran o dair nag incwm cyflogedig (£13,500 a £22,500 yn y drefn honno). Mae hyn yn bwysig i’w ystyried yng nghyd-destun y diwydiannau creadigol. Canfu’r adroddiad “er ei fod yn cynrychioli rhan lai o’r gyflogaeth gyffredinol, mae sectorau fel y diwydiannau creadigol hefyd yn profi cyfraddau uchel o hunangyflogaeth. Mae’r diwydiannau creadigol hefyd yn profi rhai o’r hunangyflogaeth ar yr incwm isaf”. Dangosodd ymchwil a gynhaliwyd yng Nghymru gan Donnelly a Komorowski (2022) fod incwm blynyddol cyfartalog gweithwyr llawrydd yn y sector hwn yng Nghymru ymhlith eu hymatebwyr yng Nghymru yn £17,000 y flwyddyn. Yn ogystal, nodwn fod profiad Cwmnïau Cymdeithasol Cymru o weithio gyda phobl hunangyflogedig yng Nghymru yn amlygu bod llawer eisoes yn wynebu heriau a rhwystrau cymdeithasol eraill, a dylid ystyried hyn mewn modd rhyngadrannol.

Rydym am hyrwyddo’r potensial o sefydlu cwmnïau cydfuddiannol ar gyfer yr hunangyflogedig fel ateb i’r heriau sy’n wynebu’r gyfran uchel o weithwyr yn y diwydiannau creadigol yng Nghymru sy’n hunangyflogedig. Un o’r heriau mawr i bobl hunangyflogedig a nodwyd gan Sefydliad Bevan yn eu hadroddiad yw’r amddiffyniad cyfyngedig pe bai eu hincwm yn gostwng neu’n dod i ben. Mae cwmni cydweithredol neu gydfuddiannol yn caniatáu i weithwyr ymuno â’i gilydd a chyfrannu arian at gronfa y gellir ei defnyddio i gefnogi aelodau sydd wedi gweld eu hincwm yn gostwng neu’n dod i ben, gyda “Dutch Bread Fund” wedi’i hamlygu fel enghraifft gan Sefydliad Bevan. Yn ogystal, ymrwymodd Llywodraeth Cymru yn 2021 i ddyblu nifer y busnesau sy’n eiddo i’r gweithwyr yng Nghymru, ac mae gan Busnes Cymdeithasol Cymru wybodaeth a phrofiad arbenigol o hwyluso hyn – mae angen rhagor o ymchwil a datblygu polisi i archwilio potensial y model hwn yn y diwydiannau creadigol, ond mae’n amlwg y gallai chwarae rhan allweddol fel ateb i’r heriau sy’n wynebu gweithlu’r sector.

 

 

Pa mor gydradd, amrywiol a chynhwysol yw’r sector? Sut y gellir gwella hyn?

Mae'r Grŵp Rhanddeiliaid Mentrau Cymdeithasol wedi nodi mwy o amrywiaeth yn y sector menter gymdeithasol fel canlyniad allweddol yn ei Weledigaeth a'i Gynllun Gweithredu. Gwyddom y byddai hyn yn dod â manteision allweddol i’r sector ac i Gymru gyfan, gan gynnwys:

·         Mae mentrau cymdeithasol yn gallu recriwtio a chadw cyflogeion talentog a maent yn elwa o’r cryfderau a’r doniau y mae amrywiaeth yn cyfrannu at y gweithle.

 

·         Mae gwerthiannau’n cynyddu wrth i ddefnyddwyr moesegol wneud penderfyniadau prynu ar sail arferion cyflogaeth teg

 

·         Mae’r gymuned gyffredinol yn elwa, wrth i sgiliau lleol gael eu defnyddio ac wrth i fwy o arian gylchredeg yn yr economi leol

 

·         Mae tlodi ac anghydraddoldeb yn lleihau

 

·         Ceir cynnydd o ran defnyddio a hyrwyddo’r Gymraeg a diwylliant Cymru

Nododd y Weledigaeth a’r Cynllun Gweithredu gamau allweddol y gellir eu cymryd i sicrhau bod y cynnydd hwn mewn amrywiaeth yn digwydd:

·         Cynyddu ymwybyddiaeth yn y sector o werth amrywiaeth

 

·         Darparu cymorth ac adnoddau i helpu mentrau cymdeithasol i weithredu gwelliannau i amrywiaeth

 

·         Datblygu a hyrwyddo hyfforddiant ac adnoddau er mwyn helpu mentrau cymdeithasol i recriwtio aelodau Bwrdd a thimau arwain mwy amrywiol

 

·         Gwella argaeledd hyfforddiant ac adnoddau trwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg

Rydym wedi nodi dangosyddion perfformiad allweddol yn ymwneud ag amrywiaeth:

Amrywiaeth timau arwain mentrau cymdeithasol

         Amrywiaeth pobl a gyflogir yn y sector

 

         Canran y mentrau cymdeithasol sy’n rhoi mesurau ar waith i wneud eu nwyddau a’u gwasanaethau yn hygyrch i bawb

 

         Canran y mentrau cymdeithasol sy’n cynnig gwasanaethau yn Gymraeg ac yn Saesneg

Fel sector sydd â chyfran uchel o fentrau cymdeithasol, credwn y bydd cymorth i gyflawni’r uchelgeisiau hyn yn hollbwysig i’r diwydiannau creadigol. Yn ogystal, credwn fod llawer o'r camau gweithredu a'r amcanion hyn yn berthnasol i'r economi gyfan.

Diwedd

Gobeithiwn fod y dystiolaeth hon yn amlygu effaith y sector menter gymdeithasol, manteision y model hwn, a’r heriau a’r cyfleoedd y mae’n eu hwynebu. Byddem yn croesawu’r cyfle i drafod ymhellach sut y gallwn gydweithio yn y maes hwn ac i gefnogi datblygiad y sector pwysig hwn.